Ellen Jones ydw i, ac rwi'n ceisio cael fy newis fel eich ymgeisydd Llafur Cymru dros Glwyd yn Etholiadau'r Senedd ym mis Mai 2026.
Clwyd yw fy nghartref. Dyma ble cefais fy magu, dyma ble rwy'n byw, a ble rwy'n magu fy nheulu.
Rydw i wedi treulio fy mywyd yn sefyll dros yr hyn sy'n iawn ac yn siarad dros y rhai sydd angen llais. Egwyddorion sydd wedi'u llunio gan fy mhrofiad fel gofalwr ifanc. Maen nhw'n cynrychioli fy ngwerthoedd o frogarwch, tegwch ac uchelgais i bobl Cymru.
Dyma’r hyn sy’n fy ysgogi wrth fynd ar drywydd cyfiawnder cymdeithasol yn fy ngwaith fel ymgyrchydd trydydd sector a lluniwr polisi, a pham rwy'n ymgyrchydd angerddol dros y Blaid Lafur.
Gan dyfu i fyny mewn pentref bach yng Nghlwyd, cefais fy magu mewn cartref un rhiant, ac roeddwn yn gofalu am fy mrawd anabl, Sam, sydd â syndrom Prader-Willi. O dan Lywodraeth Lafur, doedd gennym ni ddim llawer, ond roeddem yn teimlo'n ddiogel.
Newidiodd pedair-blynedd-ar-ddeg o gyni cyllidol y Torïaid hynny, gan ddileu'r gefnogaeth a'r sefydlogrwydd yr oedd teuluoedd fel fy un i yn dibynnu arnynt. Roedd yn anodd, ond dyna sydd wedi fy ngwneud i’n ymladdwr ac yn eiriolwr angerddol.
I mi, mae gwleidyddiaeth yn ymwneud â chreu newid cadarnhaol ym mywydau pobl. Roedd rhaid i mi roi rhywbeth yn ôl i'r Blaid a helpodd gymaint arnaf i yn fy mlynyddoedd cynnar, felly yn y Brifysgol, ymunais â Myfyrwyr Llafur ac rydw i wedi bod yn ymgyrchu ym mhob etholiad lleol, Senedd Cymru a Senedd y DU ers hynny, a dydw i erioed wedi edrych yn ôl.
Mae eiriolaeth wrth galon fy ngyrfa. Fel Llywydd UCM Cymru, arweiniais ymgyrch lwyddiannus i ymgorffori addysg perthnasoedd iach a rhywioldeb yng nghwricwlwm Cymru gan fynd i'r afael yn uniongyrchol â phryderon aelodau ynghylch aflonyddu rhywiol a thrais cynyddol yn erbyn menywod ar y campws. Rydw i wedi gweithio ar draws y trydydd sector ac ochr-yn-ochr â system wleidyddol Cymru i wthio am newid go iawn.
Uno ein aelodau ar draws y ddwy etholaeth, a recriwtio mwy o weithredwyr er mwyn creu grym cryfach i frwydro dros ddyfodol Cymru.
Un sy'n edrych ymlaen gyda hyder at ddyfodol Cymru, er mwyn cyflwyno newid positif i bobl sy'n teimlo bod gwleidyddiaeth wedi'u gadael ar eu hôl.
Ffocws cryf ar wasanaethau cyhoeddus gwell sy'n darparu ar gyfer ein cymunedau.
Rwy'n cefnogi Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru. I godi gweithwyr gofal allan o dlodi mewn gwaith am byth, a gwella ansawdd y gofal mae defnyddwyr gwasanaeth yn ei dderbyn.
Fel mam sy'n gweithio, rwy'n gwybod am y frwydr mae teuluoedd yn ei wynebu gyda gofal plant. Rwyf am ehangu'r gefnogaeth ar gyfer rhieni a gofalwyr, a chodi pob plentyn allan o dlodi.
Llunio a chyflwyno Cynllun Sgiliau y Dyfodol, a hannog mwy o fuddsoddiad mewn swyddi gwyrdd cynaliadwy sy'n buddsoddi yn ein cymunedau ac yn lleihau biliau.